Cwrdd â'n myfyrwyr ar-lein
Yn ychwanegol at ein harddangosfeydd Gyrfaoedd, gall cyflogwyr ddewis o blith amrywiaeth o opsiynau i ymgysylltu â myfyrwyr drwy gydol tymor yr Hydref.
Bydd ein tîm yn cwrdd â chi i drafod y gweithgarwch gorau ar gyfer eich ymgyrch a’ch anghenion recriwtio, a’ch cefnogi chi i drefnu digwyddiad, gan reoli popeth o archebion myfyrwyr i farchnata cyn eich digwyddiad ac ar y diwrnod.
Rydym yn argymell:
- Sylw ar gyflogwyr: gweminarau/cyflwyniadau gyda rhwydweithio a sesiwn holi ac atebion fyw
- Sesiynau sgiliau rhyngweithiol
- Gofynnwch unrhyw beth i mi - sesiynau holi ac ateb byw gan recriwtwyr
- 'Dod o hyd i’ch dyfodol yn…' digwyddiadau sy’n benodol i’r sector ac ar thema
- Digwyddiadau a mewnwelediadau panel cynfyfyrwyr
- Cipolygon / teithiau swyddfa rhithwir
- Cynnwys ar-lein gan gyflogwyr megis blogiau, cynnwys fideo neu gyfraniadau i’n podlediad.
Rydym hefyd yn cynnig ystod eang o gyfleodd i adeiladu brand a noddi, ac rydym bob amser yn barod i drafod unrhyw syniadau arloesol allai fod gennych.
Cysylltwch â'r Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr i gael gwybod rhagor threfnu eich digwyddiad cyflogwyr: