Ewch i’r prif gynnwys

Cyllid a chostau

Mae cynllun y Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) yn cael ei ariannu’n rhannol gan nifer o noddwyr, gan gynnwys holl Gynghorau Ymchwil y DU, Llywodraeth Cymru ac Innovate UK, sydd i gyd yn gyfrifol am reoli’r cynllun.

Mae'r noddwyr yn darparu grant o 67% i BBaChau a grant o 50% i sefydliadau mawr. Gall busnesau trydydd sector o unrhyw faint dderbyn cyfraniad grant o hyd at 75% o gostau cymwys y prosiect gan Innovate UK, yn amodol ar gap, a bydd y busnes yn talu’r balans. Mae hwn yn ymrwymiad hirdymor gan KTP i helpu i gynyddu nifer y prosiectau gan fusnesau 3ydd Sector.

Mae pob cais grant KTP yn cael ei asesu yn erbyn rhestr o feini prawf i sicrhau bod y cynnig yn cyd-fynd â’r genhadaeth y cytunwyd arni ac amcanion y rhaglen.

Costau

Mae’r gost net i chi yn dibynnu ar y prosiect, ond fel canllaw:

  • £25,000 y flwyddyn ar gyfer BBaCh
  • £35,000 y flwyddyn ar gyfer sefydliad mawr

Mae’r buddsoddiad hwn, sydd ychydig yn uwch na’r cyflog cychwynnol ar gyfer graddedig lefel-uchel, yn rhoi’r canlynol i chi:

  • aelod Cyswllt sy’n gweithio’n llawn amser ar y prosiect
  • amser yr academydd arweiniol
  • cyllideb teithio ac offer
  • mynediad i gyfleusterau ac offer y Brifysgol y gallai fod eu hangen ar yr Aelod Cyswllt i wneud ei waith
  • cyllideb Hyfforddi a Datblygu Aelodau Cyswllt sy’n rhoi sgiliau newydd i’r Aelod Cyswllt i ddatblygu’r prosiect ymhellach
  • ystod o gymorth gweinyddol a logistaidd gan y Brifysgol a’r tîm KTP canolog.

Cyllid Llywodraeth Cymru

Gyda'r amgylchedd economaidd anodd presennol, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddant yn cyfrannu 75% tuag at gyfanswm costau prosiectau KTP sy'n cwrdd â'r meini prawf cymhwysedd ac yn cael eu cymeradwyo ar gyfer cymryd rhan yn y rhaglen KTP.

Disgwylir i fusnesau bach a chanolig fel arfer gyfrannu 33% o gyfanswm costau'r prosiect, ond nawr bydd yn rhaid i fusnesau cymwys yng Nghymru gyfrannu 25% yn unig.

Mae partneriaethau yn datblygu'r cynnig ar y cyd i fynd i'r afael ag angen busnes penodol a rhaid iddynt gyflwyno eu cynnig i'w asesu rhwng 1 Medi 2020 a 29 Mawrth 2025. Dim ond ceisiadau a dderbynnir yn ystod yr amser hwn fydd yn gymwys i gael y cyllid hwn.

Am ragor o wybodaeth: Llywodraeth Cymru Cyllid KTP

Sut mae gwneud cais

  • Bydd cais grant KTP yn cael ei gwblhau ar y cyd gennych chi a’r partner academaidd, gyda chymorth ein tîm KTP
  • Bydd yr Ymgynghorydd KTP rhanbarthol yn ymweld â chi i gadarnhau ymarferoldeb y prosiect ar gam cynnar yn y broses
  • Mae’r tîm KTP yn cydlynu’r broses ymgeisio gyfan i sicrhau bod y dyddiad cau yn cael ei fodloni

Dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno

Mae'r rhaglen yn agored i unrhyw syniadau arloesol o ansawdd uchel gan bob business. Gallwch wneud cais o unrhyw faes technoleg neu sector. Gall eich prosiect fod wrth unrhyw gam ymchwil a datblygu.

Y dyddiadau cyflwyno yw:

  • 10 Ebrill 2024
  • 26 Mehefin 2024
  • 25 Medi 2024
  • 27 Tachwedd 2024

Rhagor o wybodaeth

Am gymorth pellach, cysylltwch â’r tîm Ymgysylltu Busnes a Phartneriaethau

Tîm Ymgysylltu Busnes a Phartneriaethau