Graddio
|
|
Ymunodd Stephen Fry, yr actor, yr awdur a’r cyflwynydd â dros 7,000 o fyfyrwyr yn y dathliadau graddio eleni. Cewch flas ar awyrgylch yr wythnos drwy weld oriel ffotograffau.
Darllenwch fwy...
|
 |
Cytundeb ar Reoli Newid, gan gynnwys gweithdrefnau Contractau Tymor Penodol newydd
|
|
Mae’r Brifysgol wrth ei bodd yn cyhoeddi cytundeb gyda’i thri undeb llafur cydnabyddedig - UCU, Unsain ac Unite – mewn perthynas â chyfres o weithdrefnau newydd ar gyfer Rheoli Newid ledled y Brifysgol.
Darllenwch fwy...
|
 |
Eisteddfod Genedlaethol 2010
|
|
Modelau enfawr dynol sy’n siarad, potiau blodau o organau, etifeddiaeth cyfnod y Rhufeiniaid a hanesion o Gymru yn ystod y Rhyfel Mawr, dyma rai yn unig o’r llu o ddigwyddiadau sy’n cael eu trefnu gan staff a myfyrwyr ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Darllenwch fwy...
|
 |
Rhaglen Arweinyddiaeth Stonewall
|
|
Mae’r Brifysgol yn cefnogi dau aelod o staff i fynychu Rhaglen Arweinyddiaeth Stonewall. Mae’r Athro Terry Threadgold, Dirprwy Is-Ganghellor Staff ac Amrywiaeth yn sôn am y rhaglen a sut gall aelodau o staff sydd â diddordeb wneud cais.
Darllenwch fwy...
|
 |
Trysorau cudd
|
|
Oes gennych chi eiddo rydych chi wedi’i etifeddu gartref sy’n gysylltiedig â’r Rhyfel Byd Cyntaf? Mae’r Ysgol Hanes ac Archaeoleg yn rhoi cyfle i chi rannu’r trysorau anghofiedig hyn a’ch hanes teuluol â gweddill y genedl.
Darllenwch fwy...
|
 |
Y Frenhines yn anrhydeddu grŵp cadwraeth
|
|
Mae Gwirfoddolwyr Cadwraeth Caerdydd, grŵp a sefydlwyd ar y cyd gan John Newton, Cyfarwyddwr Cynorthwyol yn yr Is-adran Gyllid wedi cael Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol, am eu gwaith neilltuol yn y gymuned leol.
Darllenwch fwy...
|
 |
Ymunwch â’n tudalen Facebook a rhowch gynnig ar ein
cystadleuaeth Macbook Pro
|
|
Gall defnyddwyr Facebook roi cynnig ar gystadleuaeth Prifysgol Caerdydd i ennill Macbook Pro. Caiff y rhan fwyaf o’r staff roi cynnig, ac mae’r gystadleuaeth yn dod i ben ar 31 Gorffennaf. Ewch i dudalen 'Stay Connected' y Brifysgol i gael manylion.
Rhowch gynnig ar ein cystadleuaeth
|
 |