Heddiw, mae’r Brifysgol yn lansio ymgyrch fawr i ddenu meddyliau mwyaf gwybodus a deallus i ymuno â chymuned academaidd Caerdydd. Isod, mae’r Athro Chris McGuigan, y Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil, yn sôn am y rheswm dros lansio’r fenter.
“I fod ymysg y gorau, rhaid buddsoddi yn y gorau – yr adnoddau gorau, yr isadeiledd gorau a’r staff gorau. Mae’r Brifysgol yn parhau i ystyried y math hwn o fuddsoddiad yn ddifrifol iawn, yn enwedig wrth i ni ymdrechu i ateb y cwestiynau ymchwil mawr sy’n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i’r byd.
“Yn gynharach eleni, cymeradwyodd Cyngor y Brifysgol fenter aml-filiwn o bunnoedd i recriwtio staff academaidd blaenllaw yn ogystal ag ymchwilwyr dawnus ar ddechrau eu gyrfaoedd. Yr amcan yw sicrhau bwrlwm o ran diwylliant ymchwil yng Nghaerdydd, yn ogystal â llwyddiant o ran ein nodau hirdymor wrth i ni weithio tuag at ymarfer REF 2014. Mae staff ledled y Brifysgol wedi bod yn cydweithio i ddatblygu ymgyrch gyfoes ac amlwg fydd yn denu’r gweithwyr mwyaf dawnus i Gaerdydd.
“Enw’r ymgyrch yw 'Serious Brain Power', sy’n adlewyrchu’r gymuned academaidd sydd eisoes yn ffynnu, yn ogystal â’n hymrwymiad parhaus i ymchwil o’r radd flaenaf ac addysgu sy’n cael ei arwain gan ymchwil. Rydym wedi creu microwefan bwrpasol sy’n cynnig cipolwg i ddarpar ymgeiswyr o’r gwaith sy’n cael ei wneud yn y Brifysgol, a’r hyn sydd gan Gaerdydd, y ddinas, a Chymru, y wlad, i’w cynnig. Lansir hysbysebion amlwg yn genedlaethol ac yn rhyngwladol o heddiw ymlaen. Yn y cyfamser, bydd ein staff academaidd, o dan arweiniad y Penaethiaid Ysgolion, yn chwilio ymysg eu cyfoedion i nodi cydweithwyr sy’n gallu gwella cymuned ymchwil Caerdydd.
“Yn fy rôl i fel y Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil yn ogystal â Chadeirydd yr Is-grŵp REF, rwy’n parhau i gael fy synnu a fy rhyfeddu gan gryfder ac amrywiaeth yr ymchwil dynamig sydd ar waith ym mhob un o 28 ysgol academaidd y Brifysgol. Trwy recriwtio pobl lwyddiannus a sêr y dyfodol, rwy’n hyderus y gallwn gryfhau’r pŵer meddyliol sydd yma yn barod a gwneud cynnydd o ran ein hymdrechion i fod gyda’r gorau yn y byd.”
Am fwy o wybodaeth am yr ymgyrch, ewch i www.caerdydd.ac.uk/seriousbrainpower/
|