Mae cyn gadeirydd GE Healthcare Limited ac uwch arweinydd gweithredol ariannwr ymchwil feddygol mwyaf y DU, Mr John Jeans, wedi cael ei benodi'n Gadeirydd Cyngor y Brifysgol.
Mae Mr Jeans wedi cael gyrfa lwyddiannus yn y diwydiannau dyfeisiau meddygol, fferyllol a diagnostig, ac wedi bod mewn rolau uwch, gan gynnwys Is-lywydd Gweithredol gyda Nycomed Amersham International PLC, a ddaeth yn GE Healthcare Limited yn ddiweddarach. Ef hefyd oedd Dirprwy Prif Swyddog Gweithredol cyntaf a Phrif Swyddog Gweithredu'r Cyngor Ymchwil Feddygol (MRC) a Chadeirydd Technoleg MRC, sy'n gyfrifol am fasnacheiddio eiddo deallusol MRC.
Bydd Mr Jeans yn olynu'r imiwnolegydd enwog, Syr Keith Peters, fel Cadeirydd Cyngor y Brifysgol, o 16 Ionawr 2012. Bydd ei gyfnod yn y swydd yn para tan 2015.
Mae Mr Jeans eisoes yn gyfarwydd â'r Brifysgol ar ôl cadeirio un o bwyllgorau ymgynghorol amlddisgyblaethol Caerdydd. Mae hefyd yn aelod o Gyngor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymru a Chadeirydd Imanova, menter ar y cyd rhwng MRC, a Cholegau Imperial, Kings ac University.
|
 |